PLEASE - DO NOT FEED THE GULLS

Please note - Gulls have basic legal protection under the Wildlife and Countryside Act 1981 (as amended) and it is illegal to intentionally kill any bird, damage, destroy an active nest or its contents.



PLEASE - DO NOT FEED THE GULLS

Information and Guidance for Householders

Please note - Gulls have basic legal protection under the Wildlife and Countryside Act 1981 (as amended) and it is illegal to intentionally kill any bird, damage, destroy an active nest or its contents.

It is recognised that feeding and observing wild birds in our gardens and parks is a popular and educative pastime and is to be encouraged. But GULLS ARE NOT GARDEN BIRDS. The natural habitat for a Herring gull (the species most commonly seen in urban parks and gardens) is marine and coastal. But in recent decades increasing numbers have been enticed inland by the ready availability of waste food from human sources.  Wrongly, such waste food is being supplemented by a few householders, no doubt well-meaning, who put out additional food on the ground. This is usually bread - WHICH IS UNNATURAL AND HARMFUL TO GULLS, ESPECIALLY THEIR YOUNG.

The RSPB and RSPCA both advise NOT to feed gulls - they do not need to be fed and problems arise when people feed them. They naturally feed on fish, insects, smaller sea birds and even the eggs and young of other gulls – not human food. And the RSPB advises “We must all stop feeding gulls both inland and in seaside towns and in our gardens if we want to recondition their current behaviour”.

 

Mumbles Community Council strongly urges people not to feed gulls, whether in your private garden or in public spaces. If you wish to feed garden birds (not gulls!), please use a purpose-made hanging feeder. Swansea Council also takes the matter of nuisance gulls very seriously and where evidence exists against individuals who are deliberately creating a nuisance, they will not hesitate to take any necessary action and they advise people to report problems via their website at https://www.swansea.gov.uk/reportpollution.

If gulls are fed regularly, it will create an artificially high population and encourage further breeding pairs to nest in the area. Peter Rock (an avian expert involved in international gull research since 1980) warns that once a pair gains a foothold others follow and problems will grow rapidly.

Problems can include:

  • Noise – their territorial call is extremely loud, starts from the early hours and can lead to sleep deprivation, which the NHS advises can have profound detrimental impacts on a person’s physical health. If regularly fed, they will also repeatedly call throughout the day, which can also significantly impact people’s mental health and well-being.
  • Faecal waste – on people’s property, vehicles, windows, washing etc.
  • Impact on garden birds – gulls will attack and eat garden birds and drive them out of their habitat.
  • Public health – an increase in the risks of e-coli, salmonella and botulism.
  • Litter – an increase in litter from ripped open bin bags.
  • Damage to property – including insulation, air conditioning, roofing felt, lead flashing, blockages to gutters and gas flues etc. It is far better to prevent them from nesting in the first instance.
  • Aggression - with an open wingspan of up to 148 cm, and body length of up to 60cm, an adult gull can cause serious injury when protecting their young or nest site (and can attack small pets too).
  • Vermin – feeding gulls will inevitably lead to an increase in vermin – such as rats.

For the sake of the safety, health and well-being of your community, please DO NOT FEED GULLS

 

 

 

 

PEIDIWCH Â BWYDO'R GWYLANOD

Gwybodaeth ac Arweiniad i Ddeiliaid Tai

Sylwer – Mae gwylanod yn cael eu hamddiffyn yn gyfreithiol ar lefel sylfaenol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) ac mae’n anghyfreithlon lladd unrhyw aderyn, na difrodi, dinistrio nyth actif neu ei gynnwys yn fwriadol.

Cydnabyddir bod bwydo a gwylio adar gwyllt yn ein gerddi a’n parciau yn ddifyrrwch poblogaidd ac addysgiadol ac mae i’w annog. Ond NID ADAR GARDD YW GWYLANOD. Cynefin naturiol gwylan y penwaig (y rhywogaeth a welir amlaf mewn parciau a gerddi trefol) yw'r môr a'r arfordir. Ond yn ystod y degawdau diwethaf mae niferoedd cynyddol wedi'u hudo i'r mewndir gan argaeledd parod bwyd gwastraff a adewir gan bobl.  Ychwanegir at fwyd gwastraff o'r fath gan ychydig o ddeiliaid tai sy'n rhoi bwyd allan ar eu cyfer. Yn ddiau, mae'r bwriad yn un da ond camgymeriad yw gwneud hyn. Bara yw'r bwyd hwn fel arfer – NID YW HWN YN FWYD NATURIOL I WYLANOD AC MAE'N NIWEIDIOL, YN ARBENNIG I WYLANOD IFANC.

Mae'r RSPB a'r RSPCA ill dau yn cynghori PEIDIO â bwydo gwylanod – nid oes angen eu bwydo ac mae problemau'n codi pan fydd pobl yn eu bwydo. Maent yn bwydo'n naturiol ar bysgod, pryfed, adar môr llai a hyd yn oed wyau a chywion gwylanod eraill – nid bwyd dynol. Mae’r RSPB yn cynghori “Rhaid i ni gyd roi’r gorau i fwydo gwylanod yn y mewndir ac mewn trefi glan môr ac yn ein gerddi os ydym am newid eu hymddygiad presennol”.

 

Mae Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn annog pobl yn gryf i beidio â bwydo gwylanod, boed hynny yn eich gardd breifat neu mewn mannau cyhoeddus. Os hoffech fwydo adar yr ardd (nid gwylanod!), defnyddiwch offer bwydo crog pwrpasol. Mae Cyngor Abertawe hefyd yn cymryd mater niwsans gwylanod o ddifrif a lle mae tystiolaeth yn dangos bod unigolion yn creu niwsans yn fwriadol, ni fyddant yn oedi cyn cymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol. Maent yn cynghori pobl i roi gwybod am broblemau drwy eu gwefan yn https://www.abertawe.gov.uk/problemllygredd.

Os caiff gwylanod eu bwydo’n rheolaidd, bydd yn creu poblogaeth artiffisial o uchel ac yn annog rhagor o barau magu i nythu yn yr ardal. Mae Peter Rock (arbenigwr adar sy’n ymwneud ag ymchwil rhyngwladol i wylanod ers 1980) yn rhybuddio unwaith y bydd un pâr yn cartrefu mae eraill yn dilyn a bydd y problemau'n cynyddu'n gyflym.

Gall problemau gynnwys y canlynol:

  • Sŵn – mae eu galwad tiriogaethol yn uchel iawn, yn dechrau yn oriau mân y bore a gall arwain at ddiffyg cwsg ac mae'r GIG yn cynghori y gall diffyg cwsg gael effeithiau andwyol difrifol ar iechyd corfforol unigolyn. Os cânt eu bwydo'n rheolaidd, byddant hefyd yn galw dro ar ôl tro trwy gydol y dydd, a gall hyn hefyd effeithio'n sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant pobl.
  • Gwastraff ysgarthol –  ar eiddo pobl, cerbydau, ffenestri, y golch ac ati.
  • Effaith ar adar yr ardd – mae gwylanod yn ymosod ar adar yr ardd ac yn eu bwyta a'u gyrru allan o'u cynefin.
  • Iechyd y cyhoedd – cynnydd yn y risg o e-coli, salmonela a botwliaeth.
  • Sbwriel – cynnydd mewn sbwriel o fagiau bin sy'n cael eu rhwygo ar agor.
  • Difrod i eiddo – gan gynnwys i ddeunydd inswleiddio, systemau aerdymheru, ffelt toi, sêl blwm toi, ac yn achosi rhwystrau mewn gwteri a ffliwiau nwy ac ati. Mae'n llawer gwell eu hatal rhag nythu yn y lle cyntaf.
  • Ymosodiadau – gydag adenydd sydd hyd at 148cm o led pan ar agor, a chorff sydd hyd at 60cm o hyd, gall gwylan llawn dwf achosi anaf difrifol wrth amddiffyn ei chywion neu ei nyth (a gall ymosod ar anifeiliaid anwes bach hefyd).
  • Fermin – mae’n anochel y bydd bwydo gwylanod yn arwain at gynnydd mewn fermin – fel llygod mawr.

Er mwyn diogelwch, iechyd a lles eich cymuned, PEIDIWCH Â BWYDO GWYLANOD