May Volunteer Days

We are really starting to see nature thriving in MCC’s green spaces!

This month’s list of volunteer activities involved weeding the skatepark, completing section one of the dead hedge at Norton Nature Reserve and Community Gardens, and weeding around the fruit trees in Oystermouth Community Orchard. We had some pretty special days out in the recent sunshine.

We are really starting to see nature thriving in MCC’s green spaces! With the sunshine breaking through and the flowers blooming we are so happy to provide spaces for everyone to enjoy the outdoors. Please feel free to use this glorious window of weather to take a walk through any one of our green spaces. We hope it will encourage you to learn more about nature and take some time for your well-being.

If you would like to get involved in managing these spaces for nature please follow the following link https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers to be added to our Green Team mailing list and visit our social media pages for updates.

 

Mae'r rhestr o weithgareddau y mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn ymgymryd â hwy y mis hwn yn cynnwys chwynnu’r parc sglefrio, cwblhau rhan gyntaf y berth farw yng Ngwarchodfa Natur a Gerddi Cymunedol Norton, a chwynnu o amgylch y coed ffrwythau ym Mherllan Gymunedol Ystumllwynarth. Rydyn ni wedi cael y cyfle i fwynhau diwrnodiau arbennig iawn yn yr heulwen yn ddiweddar.

Rydyn ni'n dechrau gweld byd natur yn ffynnu o ddifri ym mannau gwyrdd Cyngor Cymuned y Mwmbwls erbyn hyn! A'r haul bellach yn disgleirio a’r blodau’n blodeuo, rydyn ni mor falch ein bod yn gallu darparu ardaloedd fel hyn er mwyn galluogi pawb i fwynhau’r awyr agored. Manteisiwch ar y tywydd godidog hwn a mynd am dro drwy unrhyw un o'n mannau gwyrdd. Gobeithio y bydd yn eich annog i ddysgu mwy am fyd natur ac i roi amser i'ch llesiant eich hun.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y gwaith o reoli'r ardaloedd natur hyn, dilynwch y ddolen ganlynol https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers er mwyn cael eich ychwanegu at restr bostio'r Tîm Gwyrdd. Gallwch hefyd ymweld â'n cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.