City Of Nature Challenge Swansea 2023
City of Nature Challenge 2023 Swansea!
Amazing opportunities to engage in local nature activities for your own wellbeing and ro beneift our local environment!
There are a range of fantastic opportunities planned and it is so exciting to see the city taking on this challenge and supporting urban green spaces and nature.
To get more information and updates in the run up to the challenge follow Wild about Swansea | Facebook.
This is the first year that Swansea is taking part in the challenge and is a very exciting opportunity for you to contribute to supporting nature in our area.
We would like to encourage everyone to contribute their records to the challenge!
You don’t need to be an expert, or even attend an event to be a part of the challenge! Just dowload the free iNaturalist app, snap a picture of a species that you see, upload it and share it. When uploading your recordings please click ‘Project’ and search ‘City of Nature Challenge 2023 Swansea’.
Records submitted by community members make a massive difference, so whether you’re on your daily dog walk or on your way to the shop – help us record our nature!
Thank you in advance for getting involved!
Her Natur Dinas Abertawe 2023!
Cyfleoedd gwych i ymgysylltu â gweithgareddau byd natur lleol ar gyfer eich llesiant eich hun ac er budd ein hamgylchedd lleol!
Mae amrywiaeth o gyfleoedd gwych ar y gweill ac mae mor gyffrous gweld y ddinas yn ymgymryd â’r her hon ac yn cefnogi mannau gwyrdd trefol a byd natur.
I gael mwy o wybodaeth a diweddariadau yn y cyfnod cyn yr her, dilynwch Natur Wyllt Abertawe | Facebook.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i Abertawe gymryd rhan yn yr her, ac mae’n gyfle cyffrous iawn i chi gyfrannu at gefnogi byd natur yn ein hardal.
Hoffem annog pawb i gyfrannu eu cofnodion at yr her!
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr, na hyd yn oed fynychu digwyddiad i fod yn rhan o'r her! Lawrlwythwch yr ap iNaturalist yn rhad ac am ddim, tynnwch ffotograff o rywogaeth rydych chi'n ei weld, ei lanlwytho a'i rannu. Wrth lanlwytho'ch cofnodion cliciwch ar 'Prosiect' a chwiliwch am 'Her Natur Dinas Abertawe 2023’.
Mae cofnodion a gyflwynir gan aelodau'r gymuned yn gwneud gwahaniaeth enfawr, felly p'un a ydych ar eich taith ddyddiol yn cerdded y ci neu ar eich ffordd i'r siop – helpwch ni i gofnodi ein byd natur!
Diolch ymlaen llaw am gymryd rhan!