Summer Orchard Pruning!

Orchard Management: Join us for a summer pruning volunteer day at Oystermouth Community Orchard!

Be part of a fruitful community space, promoting sustainable food production, community nature connection and biodiversity! We invite you to participate in our upcoming Summer Pruning Volunteer Day in Oystermouth Community Orchard. With luck the sun will shine brightly, and it will be a brilliant opportunity to engage with your community space, connect with nature and make a positive impact on our local ecosystem.

What to expect:

The day promises to be a fulfilling and educational experience for anyone who attends. With guidance and expertise from Witchhazel from the Orchard Project and Martin, our grounds person, you’ll learn the art of summer pruning and discover essential techniques in orchard management. Embrace a hands-on approach as you wield pruning shears and help the trees reach their full potential.

We will provide all the tools required, however please bring gardening gloves if you have them and you are welcome to bring your own tools.

It will be two hours of outdoor work so be prepared for Welsh weather, and remember to bring appropriate clothing, footwear, and plenty of water.

 

Nurture Nature, Nurture Community:

Oystermouth Community Orchard Serves as more than just a beautiful green space for dog walkers and woodland wanderers. It is a place to learn about the importance of sustainable food production and sharing our natural resources with nature. By volunteering your time, you will be contributing to the collective effort of cultivating a thriving ecosystem for many generations to come to enjoy. Together we can create a space for biodiversity, local food production and a place where nature and community can intertwine.

 

Connect, Learn and Grow:

Engage with fellow nature enthusiasts, gardeners and passionate volunteers who share your love for nature. During breaks, take part in engaging discussions, swap gardening tips, and learn about the various fruits in our orchard. Your time will be much appreciated, and we hope you can create some strong connections with other volunteers.

 

Embrace the fruits of your labour:

As we prune the trees, you will know that this work is directly contributing to a fruitful harvest. As you walk through the orchard in a few months’ time, please stop and pick the ripened fruit. You will have earned it! The fruit will taste sweeter knowing that your hard work helped produce such delicious fruit.

 

How to get involved:

Simply turn up! We will meet at Oystermouth Castle to carry the tools over to the orchard.

If you are interested in being notified of future events, please follow the link to sign up to our mailing list https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers

All volunteering opportunities and environmental events will be publicised on our social media pages and on our website.

https://www.instagram.com/mcc_environmental/

https://www.facebook.com/MumblesCommunityCouncilEnvironmental

 

Rheoli perllan: Ymunwch â ni am ddiwrnod gwirfoddoli yn tocio haf ein coed ffrwythau ym Mherllan Gymunedol Ystumllwynarth.

Byddwch yn rhan o ardal gymunedol ffrwythlon, gan hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ymgysylltu â byd natur a bioamrywiaeth yn y gymuned! Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein Diwrnod Tocio Haf i Wirfoddolwyr sydd ar fin cael ei gynnal ym Mherllan Gymunedol Ystumllwynarth. Gyda lwc bydd yr haul yn tywynnu'n braf, a bydd yn gyfle gwych i ymgysylltu â'ch ardal gymunedol, cysylltu â byd natur, a chael effaith gadarnhaol ar ein hecosystem leol.

Beth i'w ddisgwyl:

Mae'r diwrnod yn argoeli i fod yn brofiad addysgiadol sy’n rhoi boddhad i unrhyw un sy'n cymryd rhan. Gydag arweiniad ac arbenigedd Witchhazel o'r Orchard Project a Martin, ein gofalwr tir, byddwch yn dysgu'r grefft o docio yn yr haf ac yn darganfod technegau hanfodol ar gyfer rheoli perllannau. Gallwch achub ar y cyfle i gael profiad ymarferol wrth fynd i'r afael ag offer tocio a helpu'r coed i gyrraedd eu llawn potensial.

Byddwn yn darparu'r holl offer sydd ei angen, ond dewch â menig garddio os oes gennych rai ac mae croeso i chi ddod â'ch offer eich hun.

Bydd yn golygu dwy awr o waith yn yr awyr agored felly byddwch yn barod am dywydd Cymreig, a chofiwch ddod â dillad ac esgidiau addas, a digon o ddŵr.

 

Meithrin Natur, Meithrin Cymuned:

Mae Perllan Gymunedol Ystumllwynarth yn fwy na dim ond ardal werdd hardd ar gyfer pobl sy’n mynd â’u cŵn am dro a chrwydrwyr coetiroedd. Mae’n le i ddysgu am bwysigrwydd cynhyrchu bwyd cynaliadwy a rhannu ein hadnoddau naturiol â byd natur. Drwy wirfoddoli eich amser, byddwch yn cyfrannu at yr ymdrech ar y cyd i feithrin ecosystem ffyniannus i genedlaethau lawer i ddod ac i fwynhau. Gyda’n gilydd gallwn greu ardal ar gyfer bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd lleol a man lle gall byd natur a chymuned gydblethu.

 

Cysylltu, Dysgu a Thyfu:

Ymgysylltwch â chyd-selogion byd natur, garddwyr a gwirfoddolwyr brwd sy'n rhannu eich cariad at fyd natur. Yn ystod cyfnodau'r egwyl, cymerwch ran mewn trafodaethau difyr, cyfnewidiwch awgrymiadau garddio, a dysgwch am y ffrwythau amrywiol yn ein perllan. Bydd eich amser yn cael ei werthfawrogi'n fawr, a gobeithiwn y gallwch greu cysylltiadau cryf â gwirfoddolwyr eraill.

 

Cofleidiwch ffrwyth eich llafur:

Wrth i ni docio’r coed, byddwch yn gwybod bod y gwaith hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynhaeaf ffrwythlon. Wrth i chi gerdded trwy'r berllan ymhen ychydig fisoedd, stopiwch a chasglwch y ffrwythau aeddfed. Byddwch yn eu llawn haeddu! Bydd y ffrwythau'n blasu'n felysach o wybod bod eich gwaith caled wedi helpu i gynhyrchu ffrwythau mor flasus.

 

Sut i gymryd rhan:

Yn syml, dewch! Byddwn yn cyfarfod yng Nghastell Ystumllwynarth ac yn cario'r offer draw i'r berllan.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am ddigwyddiadau yn y dyfodol, dilynwch y ddolen i gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers

Bydd yr holl gyfleoedd gwirfoddoli a digwyddiadau amgylcheddol yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.

https://www.instagram.com/mcc_environmental/

https://www.facebook.com/MumblesCommunityCouncilEnvironmental 

 

Date
Thursday 27th July 2023
Venue
Oystermouth Castle
Time
10.00am - 12.00pm