Mae Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn Chwilio am Gynghorwyr Newydd.

Mae Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn Chwilio am Gynghorwyr Newydd.

Mae Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn Chwilio am Gynghorwyr Newydd.

Yn dilyn ymddiswyddiadau Clare-Anna Mitchell a Sophie Gardiner, mae Cyngor Cymuned y Mwmbwls yn chwilio am gynghorwyr newydd yn wardiau West Cross a Mayals.

Mae hysbysiadau wedi’u gosod yn yr ardal heddiw (23 Ionawr 2022) yn hysbysebu’r lleoedd gwag. Bydd etholiad os bydd deg etholwr yn gofyn am un yn ysgrifenedig yn ystod yr 14 diwrnod y bydd yr hysbysiad mewn grym. Dylai etholwyr ysgrifennu at y swyddog canlyniadau yng Nghyngor Abertawe. Os na wneir cais, bydd y cyngor cymuned yn ceisio cyfethol cynghorydd newydd. Ar hyn o bryd, mae 15 ohonyn nhw yn gwasanaethu wardiau Newton, Ystumllwynarth, Mayals a West Cross.

I gael gwybod mwy am y rôl, ffoniwch glerc y cyngor, Steve Heydon, ar 01792 363598.