We had an incredible time at the family fun days this year, celebrating natures delights, and we hope you did to!
With our Environment Officer activities including bug hunting, pollinator colouring and wildflower scavenger hunting, they were days filled with laughter, discovery, and connecting with nature.
Bug Hunting Explorers: The young explorers turn amateur entomologists, armed with bug pots and curiosity scoured every nook and cranny of Fairwood Park and Clyne Gardens in search of fascinating insects and critters. From crickets to slow worms, the discoveries were endless, reminding us of the incredible diversity of Mumbles’ green spaces.
Pollinator Colouring Artists: Our budding artists unleashed their creativity, adding vibrant colour to pollinator colouring sheets. They brought these important pollinators to life, so they could carry out their vital work of pollinating our plants. We embraced the colours and joy of nature.
Wildflower Scavenger Hunters: Equipped with scavenger lists and a sense of adventure, families embarked on a journey through the wildflowers, uncovering the joys of local wildflowers. The excitement of ticking off finds was matched by the joy of being surrounded by a sea of colour.
A huge shout out to our dedicated community and those who joined the fun for making these days such a resounding success. By connecting our next generation with nature, we take vital steps toward a greener future, and have fun in the process.
Missed out this time? Don’t worry, you can always sign up to our mailing list or follow us on social media to find out what other environmental activities we will be running.
Follow this link to sign up to our mailing list: https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers
Cofleidio Rhyfeddodau Byd Natur yn ein Diwrnodau o Hwyl i'r Teulu!
Cawsom amser anhygoel yn ein diwrnodiau olaf o hwyl i’r teulu yn dathlu hyfrydwch natur, a gobeithio eich bod chithau wedi mwynhau! Gydag amrywiol weithgareddau, gan gynnwys hela pryfed, lliwio peillwyr a helfa blodau gwyllt o dan ofal ein swyddog amgylchedd, cawsom ddiwrnodiau llawn chwerthin, darganfod, a chysylltu â byd natur.
Archwilwyr Hela Pryfed: Trodd ein harchwilwyr ifanc yn entomolegwyr amatur. Eu harfau oedd potiau pryfed a chwilfrydedd, a buont yn chwilio am bryfed a chreaduriaid diddorol ym mhob twll a chornel o Barc Fairwood a Gerddi Clun. O griciaid i nadroedd defaid, roedd y darganfyddiadau yn ddiddiwedd, a oedd yn ein hatgoffa o'r amrywiaeth naturiol anhygoel ym mannau gwyrdd y Mwmbwls.
Artistiaid Lliwio Peillwyr: Bu'n darpar artistiaid yn greadigol iawn yn ychwanegu lliwiau llachar i'n taflenni lliwio peillwyr. Llwyddodd yr artistiaid i ddod â'r peillwyr pwysig hyn yn fyw fel y gallant gyflawni eu gwaith hanfodol o beillio ein planhigion. Cawsom gofleidio lliwiau a llawenydd natur.
Helwyr blodau gwyllt: A chanddynt restr helfa a'r awydd i fynd ar antur, aeth ein teuluoedd ar daith drwy'r blodau gwyllt, gan ddarganfod swynion blodau gwyllt lleol. Roedd y llawenydd o ddod o hyd i'r blodau yr un mor gryf â'r cyffro o fod yng nghanol môr o liwiau.
Allwn ni ddim diolch digon i'n cymuned ymroddedig ac i'r rhai a ymunodd yn yr hwyl am wneud y diwrnodiau yn llwyddiant ysgubol. Drwy gysylltu ein cenhedlaeth nesaf â byd natur, rydym yn cymryd camau hanfodol tuag at sicrhau dyfodol gwyrddach, ac yn cael hwyl drwy wneud hynny hefyd.
Wedi methu mynychu y tro hwn? Peidiwch â phoeni, gallwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio neu ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i ddarganfod pa weithgareddau amgylcheddol eraill y byddwn yn eu cynnal.
Dilynwch y ddolen hon i gofrestru i fod ar ein rhestr bostio: https://www.surveymonkey.co.uk/r/GreanTeamVolunteers