We are thrilled to announce the beginning of an exciting new environmental project.
We are thrilled to announce the beginning of an exciting new environmental project. We will be beginning work in the coming weeks to redevelop Jubilee Garden into a Four Seasons Sensory Garden! This initiative, generously funded by the National Lottery Heritage Fund – Local Places for Nature grant, aims to create a vibrant, calming, and accessible green space that benefits both the community and local wildlife.
About the project:
Jubilee Garden Four Seasons Sensory Garden will transform the existing Jubilee Gardens, developed alongside Llanfair House to mark the Queen’s Golden Jubilee in 2002, into an engaging environment, designed to engage the senses throughout the year. Our vision is to provide a sheltered space for relaxation, a hub for community activity, and a haven for local wildlife.
What to expect from the garden:
- Sensory planting and garden design: our planting plan for Jubilee Garden will reflect the seasons, with plants growing all year round to stimulate sight, smell, touch and taste.
- Biodiversity focus: by adding to our cluster of community green spaces, we will be improving biodiversity and nature connectivity, with bird boxes, native plants, and pollinator friendly planting. Our planting and habitat plan will be informed by an ecological survey of the site.
- Mental wellbeing: We are partnering with Llanfair House, local mental health rehabilitation centre to support their residents to spend time in nature and to help us incorporate elements that promote mental health and wellbeing.
- Community involvement: There will be opportunities for local residents to participate in volunteer days, workshops and events at Jubilee Garden Four Seasons Sensory Garden. Keep an eye out on our website and social media channels for more information or follow this link https://uk.surveymonkey.com/r/GreanTeamVolunteers to be added to our Green Team volunteer list and find out more about our environmental work.
Follow our progress:
Keep up with the progress of this community green space development by following our environmental Instagram https://www.instagram.com/mcc_environmental/ and Facebook https://www.facebook.com/MumblesCommunityCouncilEnvironmental/ pages. We will be posting updates, sharing stories from volunteers and showcasing the gardens progress as the new green space comes into shape.
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi dechrau prosiect amgylcheddol newydd cyffrous. Byddwn yn dechrau gwaith yn yr wythnosau nesaf i ailddatblygu Gardd Jiwbilî yn Ardd Synhwyraidd Pedwar Tymor! Nod y fenter hon, a ariennir yn hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yw creu man gwyrdd llawn bywyd, a lle i ymdawelu sy’n hygyrch ac o fudd i’r gymuned a bywyd gwyllt lleol ill dau.
Ynglŷn â'r prosiect:
Bydd Gardd Synhwyraidd Pedwar Tymor y Jiwbilî yn trawsnewid y Gerddi Jiwbilî presennol, a ddatblygwyd ochr yn ochr â Thŷ Llanfair i nodi Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002, yn amgylchedd deniadol, wedi'i gynllunio i gyffroi’r synhwyrau trwy gydol y flwyddyn. Ein gweledigaeth yw darparu man cysgodol ar gyfer ymlacio, canolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymunedol, a hafan i fywyd gwyllt lleol.
Beth i'w ddisgwyl o'r ardd:
- Dylunio a phlannu synhwyraidd ar gyfer yr ardd: bydd ein cynllun plannu ar gyfer Gardd Jiwbilî yn adlewyrchu’r tymhorau, gyda phlanhigion yn tyfu drwy gydol y flwyddyn i gyffroi synhwyrau golwg, arogl, cyffyrddiad a blas.
- Canolbwyntio ar fioamrywiaeth: drwy ychwanegu at ein clwstwr o fannau gwyrdd cymunedol, byddwn yn gwella bioamrywiaeth a chysylltedd natur, gyda blychau adar, planhigion brodorol, a phlanhigion sy’n hybu pryfed peillio. Bydd ein cynllun plannu a chynefin yn cael ei lywio gan arolwg ecolegol o'r safle.
- Lles meddwl: rydym yn partneru â Thŷ Llanfair, canolfan adsefydlu iechyd meddwl leol i gefnogi eu preswylwyr i dreulio amser ym myd natur ac i’n helpu i ymgorffori elfennau sy’n hybu iechyd meddwl a lles.
- Cyfranogiad cymunedol: bydd cyfleoedd i drigolion lleol gymryd rhan mewn diwrnodau gwirfoddoli, gweithdai a digwyddiadau yng Ngardd Synhwyraidd Pedwar Tymor y Jiwbilî. Cadwch lygad ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth neu dilynwch y ddolen honhttps://uk.surveymonkey.com/r/GreanTeamVolunteers i ychwanegu eich enw at ein rhestr gwirfoddolwyr Tîm Gwyrdd a darganfod mwy am ein gwaith amgylcheddol.
Dilynwch ein cynnydd:
Darllenwch bigion am gynnydd y man gwyrdd cymunedol hwn trwy ddilyn ein Instagram https://www.instagram.com/mcc_environmental/ a Facebook amgylcheddol https://www.facebook.com/MumblesCommunityCouncilEnvironmental/ Byddwn yn postio diweddariadau, yn rhannu straeon gan wirfoddolwyr ac yn arddangos cynnydd y gerddi wrth i’r man gwyrdd newydd siapio.